Applying for - Cydlynydd yr iaith Gymraeg
Cydlynydd yr iaith Gymraeg
Mae gennym gyfle cyffrous am Gydlynydd yr iaith Gymraeg i gefnogi ymarferwyr blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae hefo sgiliau'r iaith Gymraeg.
Swydd: Cydlynydd yr iaith Gymraeg
Lleoliad: O Gartref a bydd angen teithio gyda’r swydd
Oriau: Rhan amser, 22.5 awr yr wythnos
Cyflog: £27,500-29,000HLA y flwyddyn
Hyd: Tymor sefydlog hyd at 31 Mawrth 2027 gydag, estyniad posib yn amodol ar gyllid
Budd-daliadau: Yn cynnwys 26 diwrnod tal o wyliau (codi i 30 diwrnod yn unol â hyd wasanaeth ynghyd a 8 g yl banc) , cynllun pensiwn personol, Cynllun arian parod gofal iechyd, cynllun disgownt ar-lein, rhaglen cymorth i weithwyr, ynllun gwobrau Staff, tal salwch cwmni a phatrwm gweithio hyblyg yn bosib.
Y Rôl
Fel Cydlyndd yr Iaith Gymraeg fyddwch yn chefnogi ymarferwyr y sector blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae, gyda’r iaith Gymraeg. Cytunir ar dargedau yn flynyddol rhwng llywodraeth Cymru a phartneriaid elusennol. Fyddwch yn cydlynu’r prosiect Iaith Gymraeg yr elusen, yn annog aelodau i ddysgu'r iaith Gymraeg ar-lein a darparu cefnogaeth barhaus i ymarferwyr i gynyddu eu defnydd or Iaith Gymraeg.
Mae’r prif ddyletswyddau’n cynnwys cefnogi’r sefydliad yn eang a’n cwsmeriaid yn y DU a’n cwsmeriaid rhyngwaladol drwy:
- Sefydlu a rheoli gweithdrefnau a systemau cadarn i gefnogi cydlynu, darparu a monitor prosiect yr iaith Gymraeg
- Nodi lleoliadau a recriwtio ymarferwyr ar gyfer darparu cyrsiau hyfforddi
- Hyrwyddo datblygiad sgiliau Cymraeg drwy roi gwybodaeth am y cwrs hunan-astudio ar-lein, ac annog ymarferwyr i gofrestru ar gyfer yr hyfforddiant
- Rhoi cymorth i ymarferwyr i sicrhau bod dysgu o’r hyfforddiant yn cael ei weithredu yn y gweithle
- Datblygu adnoddau i sicrhau bod hyfforddiant yn dylanwadu ar ymarfer
- Cyflwyno sesiynau rhyngweithiol gydag ymarferwyr a phartneriaid arall
- Casglu data, monitro ac olrhain cynnydd y chyfranogwyr
- Darparu adroddiadau ysgrifenedig yn nodi y cynnydd yn erbyn targedau
- Cynal ymweliadau mewn sefydliadau sydd efo aelodaeth yng Ngogledd Cymru i nodi lleoliadau a allai fod eisiau trosglwyddo i statws dwyieithog neu statws gyfrwng Cymraeg
Amdanoch Chi
I fod yn llwyddiannus yn y rôl bydd angen y sgiliau canlynol arnoch:
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Gwydodaeth am fudd a gwerth y Gymraeg yn y sector blynyddoedd cynnar
- Profiad o ddefnyddio amrywiaeth o gymwysiadau TGCH gan gynnwys Microsoft Office / Excel
- Sgiliau gweinyddol rhagorol gyda sylw i fanylion
- Gallu meithrin perthnasoedd yn hawdd a chyfathrebu ar bob lefel, gan gynnwys y gallu i ddefnyddio iaith a sgiliau cyfathrebu eraill y gall plant ifanc iawn eu deall ac gallynt ymwneud a.
- Brwdfrydedd dros y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chyfleodd gwaith chwarae
- Y gallu i gwrdd â therfynau amser a blaenoriaeth llwyth gwaith
- Yn weithiwr tîm a rhwydwaithiwr brwdfrydig, hunangymhellol a trefnus
- Y gallu i weithio'n annibynnol a defnyddio eu menter eu hunain
- Y gallu i drefnu a blaenoriaethu gwaith gyda chyn lleied o oruchwyliaeth a phosibl
Er mwyn gyflawni'r rôl hon mae'n rhaid bod gennych y defnydd o'ch trafnidiaeth eich hun a'r gallu i deithio yn ôl yr angen.
I wneud cais, gofynnir i chi gyflwyno eich CV ynghyd â llythyr eglurhaol sy'n manylu ar sut mae eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch profiad yn bodloni gofynion y rôl.
Yngl n â'r Sefydliad
Mae'r sefydliad yn elusen genedlaethol ac yn gymdeithas aelodaeth yn gymdeithasol ar gyfer meithrinfeydd. Maent yn gweithio mewn partneriaeth a meithrinfeydd, awdurdodau lleol ac ystod o bartneriaid i ddatblygu amgylchedd lle gall dysgu cynnar a gofal ffynnu.
Mae'r sefydliad wedi ymrwymo i bolisi o gyfleoedd cyfartal ac yn mynd ati i wrthwynebu gwahaniaethu mewn cymdeithas.
Efallai y bydd gennych chi brofiad mewn meysydd fel Swyddog Cymorth Cymraeg, Rheolwr Prosiect Siarad Cymraeg, LSA Siarad Cymraeg, Cynorthwyydd Dysgu Cymraeg, Cyfieithydd Cymraeg, Athro'r Gymraeg, etc.